BETH YW DIBEN Y CYFAN?
Dathlu’r hyn sy’n gwneud Gogledd Cymru yn Galon Antur Prydain – ond rydych chi eisoes yn gwybod hynny, oherwydd rydych newydd weld y ffilm.
Dathlu’r hyn sy’n gwneud Gogledd Cymru yn Galon Antur Prydain – ond rydych chi eisoes yn gwybod hynny, oherwydd rydych newydd weld y ffilm.
Mae gennym y cyfan! Rydym wedi mapio’r mannau awyr agored gorau ar draws y rhanbarth. Rydym wedi gweithio gydag awduron sy'n arbenigo mewn tywyslyfrau a ffotograffwyr antur amlwg i sicrhau y cewch yr wybodaeth fewnol am y perlau cudd a'r rhai amlwg a'r mannau gorau i fwynhau anturiaethau.
Cliciwch y delweddau isod i gael cipolwg gan arbenigwyr a phobl leol ar y gweithgaredd hwnnw. Mae gan Ogledd Cymru oes o antur yn eich disgwyl chi... ac mae’n agosach na’r disgwyl!
1. Rhywun sy’n stwffio.
2. Rhywun sy'n mwynhau gweithgareddau awyr agored ac a fydd yn rhoi bob dyfais dan haul yng nghefn cerbyd o’i ddewis (a/neu ar do'r cerbyd) ac yn teithio i Ogledd Cymru am benwythnos (neu ragor) i elwa ar y dewis helaeth o bethau y gallant eu gwneud yng Nghalon Antur.
3. Stwffiwr sanau.
Mae gan Ogledd Cymru un o'r crynoadau mwyaf o hyfforddwyr gweithgareddau awyr agored a thywysyddion yn unman yn y DU. Maent yn broffesiynol, balch, brwdfrydig ac arloesol, ac yn barod i fynd â chi i'r lefel nesaf. Cliciwch yma i ganfod darparwyr antur a gweithgareddau ar y map.